Arddangosfeydd

Y Fenni a'i marchnadoedd

21fed Medi 2002 - 23fed Mawrth 2003

Abergavenny and its MarketsYm mis Medi 2002 defnyddiwyd tir y castell am y tro cyntaf gan Wyl Fwyd y Fenni. I gyd-fynd â hyn trefnwyd arddangosfa am Farchnadoedd o Gyfnod y Rhufeiniaid i Heddiw. Dewiswyd y pwnc hwn gan fod y Fenni yn adnabyddus fel tref farchnad a daw hyd at 15,000 o bobl i’r farchnad ar ddydd Mawrth.

Roedd ffotograffau, dogfennau ac arteffactau yn yr arddangosfa o gasgliadau’r Amguerddfa. Cafwyd benthyg eitemau gan y cyhoedd, arwerthwyr da byw a’r amgueddfeydd yn Aberhonddu a Chasnewydd. Cafwyd benthyg canopi o’r farchnad oedd yn ein galluogi i osod ein stondin ein hunain yn yr amgueddfa.

Mae ysgolion wedi defnyddio’r arddangosfa gan gyfuno ymweliadau i’r amgueddfa gyda thrip i’r farchnad a chymharu siopau heddiw gyda marchnadoedd a siop groser Basil Jones.