Arddangosfeydd

Byd Heb Ei Gyffwrdd

27fed Mehefin - 27fed Medi 2009

Bid Heb Ei Gyffwrdd Eric Gill, David Jones ac Edgar Holloway yng Nghapel y ffin

Fe’i gwnaed yn bosib trwy’r Cynllun Rhannu Trysorau, ac mae Byd Heb ei Gyffwrdd: Artistiaid Capel y ffin yn cynnwys gwaith gan dri arlunydd nodedig. Y tri yw Eric Gill, crefftwr enwog fu’n byw yng Nghapel y ffin yn yr 1920au; y bardd a’r arlunydd enwog David Jones sy’n adlewyrchu ei dreftadaeth yn ei waith; ac Edgar Holloway a ddaeth yn ôl sawl gwaith i Gapel y ffin i ddilyn ei gelfyddyd.

Mae’r arddangosfa’n cynnwys rhai o’r cerfluniau a greodd Gill yn y Capel, ynghyd ag enghreifftiau o’i ddarluniau a’i ysgythriadau, yn ogystal â gwaith gan y ddau arlunydd arall a ddylanwadwyd gan Gill. Bydd detholiad o waith darluniadol a dyfrlliwiau Jones i’w gweld, a bydd rhai o dirluniau Holloway o Gapel y ffin yn cael eu harddangos, ynghyd â’i bortreadau ysgythrog, sef y gwaith y mae fwyaf adnabyddus amdano.