Å´Sefydlwyd yr Amgueddfa ar 2 Gorffennaf 1959. Trafodwyd y syniad o gael Amgueddfa tua 1903 ac mae cofnod o hynny yng nghofnodion Pwyllgor Llyfrgell Rad y Fenni. Yn y cyfarfod hwn rhoddwyd caniatâd i'r llyfrgell ddechrau casglu gwrthrychau. Bu'r casgliadau hyn yn y llyfrgell tan yr 1940au pan gafwyd gwared ohonynt.
Unwaith eto oherwydd i adeiladau hanesyddol yn Stryd Tudur a Stryd y Castell gael eu dymchwel yn ystod yr 1950au daeth pobl yn ymwybodol o'r angen i gael amgueddfa. Cafwyd anerchiad gan Alfred Jackson yn y Clwb Rotari ar 2 Hydref 1957 a ffurfiwyd Pwyllgor. Arweiniodd Alfred ac Ernest Jackson a Duggan Thacker grwp o wirfoddolwyr brwdfrydig ac agorwyd yr Amgueddfa ar 2 Gorffennaf 1959.
Amgueddfa Y Fenni, Y Castell, Stryd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy. NP7 5EE | Ffôn: 01873 854282
Hawlfraint © Cyngor Sir Fynwy