Cymdeithas Hanes Lleol y Fenni
Mae gan Amgueddfa y Fenni gysylltiad agos â Chymdeithas Hanes Lleol y Fenni. Mae gan y gymdeithas dros 300 o aelodau ac mae ganddi raglen reolaidd o ddarlithoedd, teithiau haf ac mae'n cymryd rhan mewn nifer o brosiectau sydd yn cefnogi hanes lleol.
Cymdeithas Arglwyddes Llanofer
Sefydlwyd y gymdeithas hon yn 2003 gan grwp sydd yn frwd dros Arglwyddes Llanofer. Mae'r gymdeithas wedi sefydlu darlith flynyddol a rhaglen o brosiectau i gefnogi a hyrwyddo diwylliant Cymreig.
Father Ignatius Trust
Sefydlwyd Ymddiriedolaeth y Tad Ignatius ym 1966. Yr amcan oedd atgyweirio gweddillion adfail yr eglwys a'r beddrod yn ogystal â meithrin y defnydd o'r adfail fel man addoli awyr agored.
Amgueddfa Y Fenni, Y Castell, Stryd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy. NP7 5EE | Ffôn: 01873 854282
Hawlfraint © Cyngor Sir Fynwy