Ysgolion

Cyflwyniad

The Courtneye HouseholdMae Amgueddfa a Chastell Y Fenni yn lleoliad delfrydol am ymweliad addysgol. Croesawn ysgolion sydd am ddod â disgyblion ar ymweliadau cyffredinol i weld y castell ac/neu arddangosfeydd yr amgueddfa. Mae mynediad yn rhad ac am ddim. Gofynnwn yn garedig i chi rhoi gwybod i ni pan fyddwch yn ymweld â ni er mwyn i ni roi gwybodaeth i chi ar unrhyw ddigwyddiadau a allai darfu ar eich ymweliad.

Mae gennym raglen lwyddiannus o weithdai wedi eu trefnu o flaen llaw ar gyfer ysgolion, sy’n denu nifer uchel o ysgolion lleol ac ymhellach. Mae’r holl sesiynau wedi eu cynllunio gyda’r cwricwlwm yn ganolog er mwyn galluogi’r disgyblion i ddarganfod mwy am faes pwnc penodol, gan brofi awyrgylch unigryw Amgueddfa a Chastell y Fenni ar yr un pryd. Mae yna gost am y gweithdai hyn.

Cliciwch ar fotwm ‘Gweithdai’ i ddarganfod mwy am y rhaglenni a gynhaliwn. Os hoffech gael mwy o wybodaeth am gynnwys cwricwlaidd pob rhaglen, cliciwch ar fotwm ‘Amcanion a Chysylltiadau’r Cwricwlwm’.

Am fanylion am ddyddiadau, prisiau, cynnwys ac archebu lle cysylltwch â’r amgueddfa ar 01873 854282.