Mae'n debyg fod y Mwnt wedi’i adeiladu gan yr Arglwydd Normanaidd Hamelin de Ballon yn 1087 AD. Pren fyddai’r tŵr ar ben y mwnt. O dan y mwnt roedd y beili – iard gydag adeiladau a stablau.
Dinistriwyd y castell yn llwyr ym 1233 gan Richard Marshal, Iarll Penfro a’r tywysogion Cymreig. Ailadeiladwyd y gorthwr gyda cherrig.
Mae’n debyg mai adeilad pren oedd y Neuadd Fawr gyntaf yn y castell. Yn y Neuadd hon ar ddydd Nadolig 1175 llofruddiodd Arglwydd Normanaidd y Fenni, William de Braose, ei elyn Cymreig, Seisyll ap Dyfnwal.
Yn 1182 ymosodwyd ar y castell gan berthnasau’r Cymry a lofruddiwyd. Cafodd y rhan fwyaf o ddynion William eu dal, ond doedd ef ddim gartref. Y muriau a welwch heddiw ydy olion Neuadd garreg a adeiladwyd rhwng 1233 a 1295.
Roedd dau dŵr yn y castell, un poligonaidd ac un crwn. Mae tystiolaeth yn awgrymu fod y tyrrau wedi’u hadeiladu rhwng 1295 – 1314 ar yr adeg â muriau’r dref, gan ddefnyddio grantiau muriau - rhyw fath o dreth a godwyd gan yr arglwydd lleol.
Mae’r Porthdy yn borthdy barbicanaidd nodweddiadol. Pan adeiladwyd muriau’r castell yn wreiddiol yn hwyr yn y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif agoriad syml yn y mur oedd y porth.
Mae nodweddion drws anarferol yn awgrymu fod y Porthdy wedi’i ychwanegu yn gynnar yn y 15fed ganrif. Yn y cyfnod hwn roedd Brwydr Annibyniaeth olaf Cymru yn cael ei hymladd yn erbyn Owain Glyn Dwr.
Roedd ffos sych yn hytrach na ffos â dŵr ynddi yn amgylchynu’r castell.
Dinistriwyd y gorthwr a’r rhan fwyaf o adeiladau eraill y castell yn ystod y Rhyfel cartref, rhwng 1645 – 1646. Adeiladwyd yr adeilad presennol – sydd bellach yn amgueddfa – ar ben y Mwnt fel caban hela i Ardalydd y Fenni.
Amgueddfa Y Fenni, Y Castell, Stryd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy. NP7 5EE | Ffôn: 01873 854282
Hawlfraint © Cyngor Sir Fynwy