Mae Amgueddfa y Fenni wedi ymrwymo i gasglu gwrthrychau o arwyddocâd lleol a’u cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ni allwn wrth gwrs arddangos popeth yn y casgliad, ond gall aelodau o’r cyhoedd weld eitemau nad ydynt wedi’u harddangos yn gyhoeddus. Gofynnwn i chi gysylltu â ni gan na allwn ddelio â’r ceisiadau hyn heb drefnu o flaen llaw.
Mae gan yr amgueddfa ffotograffau o’r Fenni a’r cylch. Mae’r rhain yn cynnwys dau gasgliad trefol pwysig o olygfeydd o ardaloedd o’r dref yn y canol oesoedd ac Oes Elisabeth ac a ddymchwelwyd rhwng 1957 a 1972 fel rhan o gynlluniau clirio slymiau. Rhain yw’r unig gofnod o nifer o’r adeiladau a ddymchwelwyd.
Mae casgliadau hanes cymdeithasol yr amgueddfa yn bennaf yn cynnwys deunydd yn adlewyrchu hanes a ffordd o fyw yn y dref a’r cylch. Mae pwyslais neilltuol ar fywyd gwledig, amaethyddiaeth a’r diwydiannau cysylltiedig, a bywyd domestig a gwaith. Mae casgliadau neilltuol o arwyddocaol yn cynnwys cegin Gymreig gyflawn tua 1890, siop sadler tua 1910-1930 a siop groser Basil Jones tua 1948-1950. Mae gan yr amgueddfa hefyd archif pwysig cenedlaethol Ymddiriedolaeth Coffa y Tad Ignatius. Mae gan yr amgueddfa hefyd gasgliadau o lyfrau a dogfennau sydd yn ategu ac yn esbonio’r themâu hyn.
Mae gan yr amgueddfa gasgliadau helaeth ac arwyddocaol iawn o ddeunydd archeolegol o’r cyfnod Mesolithig i’r cyfnod ar ôl y Canol Oesoedd. Mae’r casgliadau a gafwyd yn dilyn gwaith cloddio yng nghaer Rufeinig Gobannium o bwysigrwydd neilltuol. Mae gan yr amgueddfa sawl eitem unigol o wisgoedd. Mae’r rhain yn cynnwys mantell agored o’r 18fed ganrif, a gwisg briodas merch o gyfnod y Rhaglywiaeth. Mae cryn dipyn o ddillad merched o’r 19eg ganrif (yn enwedig dillad isaf) a’r 1920au yn y casgliad.
Amgueddfa Y Fenni, Y Castell, Stryd y Castell, Y Fenni, Sir Fynwy. NP7 5EE | Ffôn: 01873 854282
Hawlfraint © Cyngor Sir Fynwy