Casgliadau

Cadwraeth

17th century fireplace, AbergavennyMae staff cadwraeth a’r curadur yn gweithio i storio’r casgliadau yn ddiogel; maent yn ymchwilio ac yn cofnodi gwybodaeth ac yn eu dehongli trwy gyfrwng arddangosfeydd, cyfryngau electronig a gweithgareddau.

Caiff cyflwr gwrthrych ei asesu cyn ei arddangos a defnyddir technegau cadwraeth arbenigol i’w gadw’n sefydlog a diogel. Mae cadwraeth a gofalu am gasgliadau yn golygu cynnal amgylchedd sefydlog, heb lygredd na phla wrth eu storio a’u harddangos. Bydd angen lefelau penodol o wres, golau a lleithder i sicrhau fod arteffactau yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.