Gwybodaeth Ymwelwyr

Cyflwyniad

Amgueddfa y Fenni
Y Castell, Stryd y Castell, y Fenni, Sir Fynwy

01873 854282

Abergavenny CastleMae Amgueddfa y Fenni ar dir adfeilion Castell Normanaidd a gallwch fwynhau picnic yno yn ystod yr haf a gallwch fynd am dro ar ddyddiau oerach. Arferai adeilad yr amgueddfa fod yn gaban hela a adeiladwyd gan Ardalydd y Fenni.

Mae'r arddangosfeydd yn adrodd hanes y dref farchnad hanesyddol hon o'r cyfnod cyn hanes i'r presennol. Mae'r arddangosfeydd ar sawl lefel, a gyda rhywfaint o gymorth mae'r rhan fwyaf o leoedd yn hygyrch i ddefnyddwyr cadair olwyn.

Mae ein nodweddion yn cynnwys:

  • Rhaglen reolaidd o arddangosfeydd dros dro. Mae'r rhain yn cynnwys pethau newydd a gwaith gan artistiaid lleol.
  • Ystafell Weithgareddau i blant lle mae cyfle i liwio, torri a gludo. Ar rai adegau byddwn yn cynnig gweithdai gan staff yr amgueddfa. (Cysylltwch â ni cyn ymweld i gael gwybod am y gweithdai fydd yn cael eu cynnal).
  • Staff sydd yn fodlon ceisio ag ateb unrhyw gwestiynau hanesyddol yr hoffech eu gofyn am y Fenni a'r cylch.
  • Siop roddion fechan fel eich bod yn gallu prynu rhywbeth i gofio am eich ymweliad.

Pris: Mynediad am ddim i bawb (byddwn yn codi tâl am rai digwyddiadau arbennig).