Gwybodaeth Ymwelwyr

Cael Gafael ar Wybodaeth

Abergavenny Festival

Fel gyda nifer o adeiladau hanesyddol mae'n anodd mynd i mewn i rai mannau. Argymhellir fod o leiaf un person abl ar gael  gynorthwyo. Mae tir y castell yn anwastad ond mae ramp yn arwain at yr amgueddfa, er ei fod yn serth iawn. Unwaith eich bod wrth y drws ffrynt mae'n bosibl mynd i mewn i oriel y Gorthwr lle y mae ein harddangosfeydd i'w gweld. Gall staff yr amgueddfa gynorthwyo i agor drysau. Gellir mynd i rannau eraill yr amgueddfa trwy ddrysau allanol. Bydd angen cymorth gan ofalwr yr amgueddfa felly byddwch yn amyneddgar os yw'r amgueddfa'n brysur. Mae croeso i gwn tywys. Rydym yn gweithio ar ddarparu dulliau eraill o fynediad i'r ymwelwyr hynny na allant gyrraedd y casgliadau yn gorfforol. Mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech drafod y materion hyn ymhellach.